Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Mai 2019
Amser:
09.02 -
10.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5474
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ei ferch ar hyn o bryd yn astudio'r Gymraeg yn y Brifysgol a gall addysgu Cymraeg yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol; ac
· ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn a oes digon o gapasiti addysgu i gefnogi cynnydd yn y galw am wersi Cymraeg.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn eu barn ar y pwyntiau a nodwyd yn y ddeiseb a'r effaith bosibl yn sgil capio neu gyfyngu ar gynnydd mewn Treth Gyngor.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu'n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am y diweddaraf am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ei datganiad o Argyfwng Hinsawdd ar 30 Ebrill, a'r cyngor diweddaraf a gyhoeddwyd gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd ddechrau mis Mai; ac
· ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am y ddeiseb i gael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn.
Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd ar 4 Ebrill, a chytunodd i rannu sylwadau diweddaraf y deisebwyr gyda'r Dirprwy Weinidog i ofyn am ei barn ar y cynnwys, a gofyn am fwy o fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru i ddatrys materion yn ymwneud â mynediad i ddyfroedd mewndirol yn dilyn ei datganiad ysgrifenedig.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am ei barn ar y pwyntiau a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Gyngor Ceredigion i ofyn pa gyfraniad y gallai ei wneud i helpu i amddiffyn y murlun;
· ysgrifennu at Gyngor Cymuned Llanrhystud i ofyn am wybodaeth am y gwaith y bydd yn ei arwain i benderfynu ar gynllun rheoli hirdymor, a'r amserlenni tebygol ar gyfer hyn; a
· gofyn am y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru maes o law.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am fanylion y camau perthnasol a gymerir gan Lywodraeth Cymru ers argymhelliad y Comisiynydd Plant y dylid adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gynnig y dylid ymgorffori diogelwch disgyblion sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn adolygiad o'r fath.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Cymwysterau Cymru a'r Gweinidog Addysg i ofyn am fwy o wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg o'r dechrau o dan y cwricwlwm newydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu'r camau y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb o fis Medi 2020. Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am godi'r mater hwn a llongyfarchodd hi ar lwyddiant y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn iddi ailystyried a ellid cyflwyno'r newid hwn o fis Medi 2019.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i gwestiynu pa mor effeithiol y bydd yr erthygl yng nghylchlythyr Dysg wrth atgoffa arweinwyr ysgolion i ailystyried asesiadau risg yn ymwneud â dosbarthiadau Dylunio a Thechnoleg, a gofyn pam na ellir cynhyrchu canllawiau mewn perthynas â'r pwnc hwn.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wedi adfer y grant ar gyfer y gwasanaethau hyn yn 2018-19 a 2019-20, a gwaith craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Grant Gwella Addysg.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am bapur yn amlinellu'r gwaith craffu a roddwyd ar fater apeliadau yn erbyn cau ysgolion ar yr adeg y pasiwyd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ynghyd ag opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen ag ystyried rhinweddau mecanwaith apelio ymhellach.
Trafododd y Pwyllgor y ddiseb ynghyd â deiseb P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am y canlynol:
· sefydlu datrysiad dros dro, naill ai drwy'r cwricwlwm ABCh cyfredol neu Fagloriaeth Cymru, i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021; ac
· ystyried ffyrdd eraill y gall pobl ifanc gael gafael ar wybodaeth mewn perthynas ag addysg wleidyddol y tu allan i gwricwlwm yr ysgol, er enghraifft trwy leoliadau gwaith ieuenctid.
Trafododd y Pwyllgor y ddiseb ynghyd â deiseb P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y Cwricwlwm, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am y canlynol:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a chytunodd i dderbyn y cynnig o gael diweddariad ar gynnydd a gofyn amdano, a diweddariad gan y deisebwyr ac Anabledd Cymru, ar ddechrau tymor yr hydref.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at elusennau digartrefedd i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac effaith a nifer yr achosion o bensaernïaeth elyniaethus i atal cysgu allan yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa ddarpariaeth sydd ar gyfer plant ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu, mewn achosion lle nad cymorth iechyd meddwl yw'r ateb mwyaf priodol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
o dderbyn y cynnig o ddiweddariad pellach ar y gwaith sydd ar y gweill;
o gofyn amdano erbyn dechrau tymor yr hydref; a
o rhannu pryderon y deisebwyr nad yw'n ymddangos bod y gweithgor yn cynnwys cynrychiolaeth gan blant a phobl ifanc; a
· thrafod a yw'n bosibl ymgysylltu â Senedd Ieuenctid y Cynulliad ar y materion a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o gofio nad yw'n glir ar hyn o bryd bod unrhyw fygythiad sylweddol i ddarpariaeth gwasanaeth yn Ysbyty Tywysog Phillip neu yn Llanelli o'r wybodaeth a ddaeth i law, cytunodd i gysylltu â'r deisebwyr i ofyn:
· a fyddai'n well ganddynt i'r Pwyllgor gadw golwg ar y newidiadau sy'n effeithio ar Ysbyty Tywysog Philip ac adolygu'r ddeiseb tua diwedd y flwyddyn; neu
· cau'r ddeiseb ar hyn o bryd, er mwyn galluogi deiseb yn y dyfodol petai'r sefyllfa hon yn newid.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am:
· ddiweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru;
· ei myfyrdodau yn dilyn y ddadl a gynhaliwyd ar 3 Ebrill a pha newidiadau y gallai eu hystyried yn dilyn y bleidlais o blaid cynnig deddfwriaethol Bethan Sayed AC; a
· rhannu copi o'r sylwadau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a gofyn am ei hymateb i'r pwyntiau a nodwyd, yn enwedig y pryderon am Ganolfannau Cyfeirio Camdriniaeth Rywiol.
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ysgrifennu at:
· Weinidog yr Amgylchedd i ofyn iddi ymgorffori'r mater hwn yng ngwaith Llywodraeth Cymru yn dilyn ei datganiad diweddar o argyfwng newid yn yr hinsawdd; ac
· y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddiolch iddynt am y wybodaeth a ddarparwyd, ond gofyn a yw hyn yn golygu y byddent yn disgwyl i bob bwydlen ddyddiol mewn lleoliadau ysgol ac ysbyty gynnwys opsiynau bwyd llysieuol a fegan.